Cysylltu â Ni
I gael manylion am ddigwyddiad sy'n cael ei gynnal, neu wybodaeth am gynnal digwyddiad yn y Pierhead eich un, cysylltwch â
0845 010 5500
Cyfeiriad
Y Pierhead,
d/o Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
Caerdydd,
CF99 1NA
View Larger Map
Efallai y bydd y wybodaeth ar y gwefannau a ganlyn yn ddefnyddiol wrth i chi drefnu'ch ymweliad:
Sut i gyrraedd y Pierhead...
Ar y bws
Mae bws plygu'r Baycar yn pasio Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd, Plas Dumfries, Heol y Brodyr Llwydion, Heol Eglwys Fair a Gorsaf Reilffordd Ganolog Caerdydd bob 10 munud ac yn stopio yn Pierhead Street ac y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru, sydd ger y Pierhead. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y gwasanaeth Baycar
Ar y trên
Mae gwasanaethau'n rhedeg bob 20 munud o Orsaf Heol y Frenhines, Caerdydd i Orsaf Bae Caerdydd. Mae'r orsaf ychydig funudau o adeilad y Pierhead (a'r Senedd).
O'r draffordd
Gadewch yr M4 ar gyffordd 33, dilynwch yr A4232 i gyfeiriad Bae Caerdydd, a dilynwch yr arwyddion am Gynulliad Cenedlaethol Cymru, CF99 1NA. Mae'r Pierhead o fewn tafliad carreg i'r Senedd.
Parcio ceir
Mae'r maes parcio agosaf yng Nghei'r Forforwyn, nid nepell o'r Pierhead. Mae hwn yn faes parcio talu ac arddangos ac mae staff diogelwch yn gweithio yno drwy'r adeg. Mae lle i barcio gyda thalebau y tu allan i'r Eglwys Norwyaidd.
Parcio bysus
Mae map sy'n dangos y mannau lle gall bysus stopio ar gael drwy ffonio Llinell Archebu'r Cynulliad ar 0845 010 5500
Beicio / Cerdded
Mae llwybr 'Taith Taf' yn rhedeg o Aberhonddu ar hyd yr afon, drwy ganol y brifddinas, cyn dod i'w derfyn ger y Basn Hirgrwn y tu allan i'r Pierhead. Hefyd, mae llwybr i feicwyr a cherddwyr ar gael ar hyd yr A4232 o Barc Manwerthu Bae Caerdydd.
Mewn tacsi
Mae nifer o gwmnïau tacsi yn cynnig gwasanaeth o ganol y brifddinas i Fae Caerdydd. Mae tacsis ar gael y tu allan i Orsaf Reilffordd Ganolog Caerdydd, ger Neuadd Dewi Sant ac ar waelod Plas-y-Parc.